Gwybodaeth gan Ofcom Cymru - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 11 Ionawr 2017

 

Gweler lincs isod i ddau adroddiad gan Ofcom, sef ‘Cysylltu’r Gwledydd 2016: Adroddiad Cymru’ a ‘Cysylltu’r Gwledydd 2016: Adroddiad y DU’; a’r datganiad perthnasol i'r wasg

 

 

Adroddiad Cysylltu’r Gwledydd 2016: Cymru

Connected Nations 2016 (UK)

 

 

Band eang cyflym iawn nawr yn cyrraedd 8 o bob 10 eiddo yng Nghymru

16 December 2016


Mae argaeledd band eang cyflym iawn wedi neidio yng Nghymru, gydag wyth adeilad o bob deg (85%) yn gallu cael cysylltiad.

Mae’r canfyddiadau yn rhan o adroddiad Cysylltu'r Gwledydd 2016 Ofcom - yr olwg fanylaf a mwyaf awdurdodol ar gyflwr rhwydweithiau diwifr a thelegyfathrebiadau’r DU.

Yn yr adroddiad eleni, gwelir cynnydd da o ran darpariaeth gwasanaethau cyfathrebu sefydlog a symudol a’r defnydd ohonynt, sy’n rhan mor allweddol o fywydau gwaith a phersonol pobl.

Gwta ddwy flynedd yn ôl yr oedd band eang cyflym iawn ond ar gael i ychydig dros hanner (55% neu 780,000) o adeiladau Cymru, yr isaf o holl wledydd y DU, ac 20 pwynt canran yn is na chyfartaledd y DU ar yr adeg honno. Mae hyn nawr wedi neidio 73,200 mewn blwyddyn, i 1.23 miliwn adeilad, o 1.14 miliwn, ac mae hyn wedi cael ei sbarduno gan fwyaf gan raglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r rheini sydd wedi gallu cael cysylltiad cyflym iawn o ganlyniad i raglen Cyflymu Cymru wedi codi 6% i 620,611 adeilad a’i nod yw cyrraedd 690,000 adeilad erbyn diwedd 2017. Fodd bynnag, mae’r adroddiad wedi canfod bod rhagor o waith i’w wneud – yn enwedig o ran rhoi hwb i ddarpariaeth symudol a band eang, a gwella ansawdd y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gwmnïau telegyfathrebiadau.

Mae ardaloedd gwledig yn dal ar ei hôl hi o ran band eang, a Chymru sydd â'r ail gyfran uchaf o adeiladau gwledig yng ngwledydd y DU. Mae hyn yn creu sialensiau anoddach i gwmnïau wrth gyflwyno 4G symudol a chysylltiadau band eang cyflym iawn.

Mae tua thri adeilad o bob deg – dros 94,000 – mewn ardaloedd gwledig yn methu â chael cysylltiad dros 10Mbit yr eiliad, sef y trothwy ac ar ôl hwnnw mae’r rhan fwyaf o bobl yn dweud bod eu profiad o fand eang yn un ‘da’. Mae hyn yn aml oherwydd eu bod yn bell i ffwrdd oddi wrth y cabinet stryd lleol neu’r gyfnewidfa ffôn.

Er mwyn helpu i gau’r bwlch cyflymder hwn, mae Ofcom heddiw wedi rhoi cyngor technegol i Lywodraeth y DU ar weithredu ei gynlluniau, a gyhoeddwyd yn 2015, am wasanaeth band eang cyffredinol.

Mae adroddiad Cysylltu’r Gwledydd hefyd yn cyflwyno’r lefelau cyfredol o ddarpariaeth symudol ar draws y wlad. Tra bod pethau’n gwella, gyda 4G ar gael mewn mwy o eiddo, mae’r ddarpariaeth yn brin ac mae Ofcom am weld gwell argaeledd ar draws tirfas y DU.

Felly, rydym wedi cychwyn trafodaethau gyda’r darparwyr symudol er mwyn ystyried ffyrdd radical ac uchelgeisiol o sicrhau bod darpariaeth symudol yn cyd-fynd ag anghenion defnyddwyr.

Sicrhau band eang teilwng

Mae nifer yr adeiladau sydd heb fynediad i fand eang teilwng wedi disgyn yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n debyg o ddisgyn ymhellach, wrth ystyried buddsoddiadau parhaus gan y diwydiant a gan Lywodraeth.

Ond byddai’r gwasanaeth cyffredinol yn sicrhau bod gan bob cartref a busnes bach yn y wlad yr hawl i ofyn am gysylltiad band eang teilwng a fforddiadwy o 10Mbit yr eiliad neu fwy erbyn diwedd y senedd bresennol.

Mae dadansoddiad Ofcom yn dangos bod y cyflymder hwn yn ddigon i ddiwallu anghenion aelwyd nodweddiadol ar hyn o bryd. Mae gweithgaredd arlein defnyddwyr sydd a mynediad i’r cyflymderau yma yn llai cyfyngedig na’r rheiny sydd heb fynediad.

Fodd bynnag, gall hynny newid wrth i raglenni newydd sy’n defnyddio llawer o ddata ddod i’r fei. Felly byddwn yn monitro’r gwasanaeth cyffredinol ac yn argymell codi ei gyflymder sylfaenol pan fydd angen.

Y Llywodraeth fydd yn penderfynu ar y dyluniad terfynol ac wedyn Ofcom fydd yn ei roi ar waith. Yr ydym heddiw wedi cyflwyno cyngor technegol i gyfrannu at benderfyniadau’r Llywodraeth ar ffactorau fel cyflymder, cymhwysedd, fforddiadwyedd a chyllid.

Fel rhan o hyn, rydym wedi ystyried tri senario posibl – band eang safonol yn cynnig cyflymder lawrlwytho o 10Mbit yr eiliad; fersiwn helaethach o’r gwasanaeth hwn, sy’n cynnwys cyflymder lanlwytho  o 1Mbit yr eiliad; a gwasanaeth band eang cyflym iawn.

Mae’r Llywodraeth wedi mynegi y byddai’n ffafrio PDF, 156.4 KB cyllido drwy'r diwydiant. O dan fodel cyllido drwy'r diwydiant, byddai’r cwmnïau sy’n darparu’r gwasanaeth cyffredinol yn adennill unrhyw faich cost annheg o gronfa y byddai amrywiaeth o gwmnïau telegyfathrebiadau yn talu i mewn iddi.

Mae Ofcom hefyd wedi ystyried yr angen i fand eang cyffredinol gyrraedd y cwsmeriaid mwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rheini ar incwm isel Gallai fod angen cael tariff cymdeithasol er mwyn darparu band eang fforddiadwy i’r cwsmeriaid hyn, fel sydd ar gael ar gyfer ffonau llinell dir.

Nid da lle gellir gwell gyda darpariaeth symudol

Mae darpariaeth symudol wedi gwella yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ond rhaid gwneud rhagor o waith cyn i wasanaethau llais a data gyfateb i ddisgwyliadau uwch defnyddwyr.

Mae tua saith adeilad o bob deg (73%) yng Nghymru nawr yn gallu derbyn gwasanaeth llais dan do gan bob rhwydwaith, sydd wedi codi o 65% y llynedd ac mae gwasanaethau data dan do ar gael mewn dros hanner (57%) yr adeiladau, i fyny o 47% y llynedd.

O safbwynt daearyddol, mae gan Gymru fwy o fannau digyswllt llais (12%) na’r DU (10%). Ond ar gyfer data, mae Cymru yr un fath â’r DU drwyddi draw, gyda thua 16% o’r arwynebedd tir ddim yn cael darpariaeth gan unrhyw gwmni.

Mae darpariaeth llais ddaearyddol gan bob cwmni yng Nghymru yn 52% (66% yn y DU) ond mae darpariaeth data ddaearyddol gan bob cwmni yn ddim ond 27% - tua hanner cyfartaledd y DU.

Mae angen mwy a mwy o ddarpariaeth ar ddefnyddwyr ffonau symudol ym mhob man, felly mae Ofcom yn edrych ar sut gall helpu i wireddu hynny. Yr ydym hefyd yn galw ar bob cwmni PDF, 41.9 KB i fynd y tu hwnt i'r targedau presennol drwy edrych ar y dewisiadau i gyrraedd ardaloedd heb adeiladau – fel llinellau trafnidiaeth a lleoliadau anghysbell.

Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: “Yr ydym wedi gweld cynnydd dramatig yn argaeledd band eang cyflym iawn dros y blynyddoedd diwethaf ac mae gan lywodraethau Cymru a’r DU gynlluniau mewn lle i sicrhau rhagor o welliannau.

“Fodd bynnag, mae hi’n glir bod angen gwneud rhagor o waith, yn enwedig gyda darpariaeth symudol. Dyma pam yr ydym yn herio cwmnïau symudol i feddwl y tu hwnt i’w targedau presennol er mwyn ymestyn darpariaeth i bawb. Yr ydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r llywodraeth i ddarparu cyngor manwl ar gynlluniau ar gyfer band eang cyflym cyffredinol.”

Cymariaethau rhyngwladol

Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi ei Adroddiad ar y Farchnad Gyfathrebu Ryngwladol 2016 sy’n cymharu gwasanaethau cyfathrebu mewn 19 gwlad fawr.

Ymysg y gwledydd hyn, y DU sydd â’r pumed argaeledd gorau o ran gwasanaethau band eang sy’n cynnig 10Mbit yr eiliad neu fwy – ar y blaen i bob gwlad yn Ewrop bron, ond y tu ôl i Singapore, Japan, De Corea a’r Iseldiroedd.

Mae’r DU hefyd yn gwneud yn dda o ran argaeledd cysylltiadau band eang sy’n defnyddio ceblau ffibr optig – fel ffibr yn rhedeg i gabinet y stryd – ac mae yn y pumed safle’r tu ôl i’r Iseldiroedd, De Corea, Japan a Singapore.

Fodd bynnag, mae Ofcom yn dal i bryderu bod gan y DU ddarpariaeth isel o fand eang ‘ffibr llawn’, lle mae llinellau cebl a ffibr yn cysylltu’n uniongyrchol i gartrefi a swyddfeydd. Yma mae’r DU yn yr ail safle ar bymtheg allan o 19 gwlad. Er mwyn datrys hyn, mae Ofcom yn mynnu bod BT yn caniatáu i ddarparwyr eraill ddefnyddio ei seilwaith i adeiladu eu rhwydweithiau ffibr eu hunain, yn uniongyrchol i’r eiddo.

Mae’r DU yn perfformio’n dda o ran prisiau, mae'r DU yn yr ail safle – allan o bum gwlad Ewropeaidd fawr, ac UDA – o ran y gwasanaethau cyfathrebu rhataf. Cafodd prisiau isel yn y DU eu gyrru i raddau helaeth gan wasanaethau ffonau symudol rhatach, yn enwedig ar gyfer tariffau sy’n cynnwys lwfans data uchel.

Gwirio eich cysylltiad band eang a symudol heddiw

https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/image/0038/95969/CN16-app-Cymru.jpgOchr yn ochr â'r adroddiad hwn, yr ydym yn lansio ap newydd, sy’n galluogi defnyddwyr i ganfod pa ddarpariaeth symudol a band eang sydd ar gael yn eu cyfeiriad nhw.

Mae’r gwiriwr hefyd yn gallu profi cysylltiadau band eang a Wi-Fi ac mae’n rhoi awgrymiadau i wella cyflymder.  Mae’r gwiriwr yn rhedeg cyfres o brofion a mesuriadau’n gyflym o ffôn clyfar neu dabled i roi gwybod sut mae’r cysylltiad symudol neu fand eang yn perfformio mewn cyfeiriad penodol.

Mae’r ap hefyd yn dangos argaeledd gwasanaeth llais, 3G neu 4G gan bob un o’r darparwyr, y tu mewn a’r tu allan, mewn unrhyw leoliad yn y DU – gan ganiatau i bobol gymharu pa rhwydwaith sy’n cynnig y gwasanaeth gorau mewn llefydd fel y cartref neu’r swyddfa. Mae gwybodaeth am argaeledd band eang a’i gyflymdra ar gael drwy ddefnyddio data ar lefel cyfeiriad am y tro cyntaf.

Mae modd llwytho’r ap i lawr am ddim ac mae ar gael ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android o’r Apple App Store neu Google Play. Mae hefyd ar gael fel fersiwn ar y we ar gyfer cyfrifiaduron bwrdd gwaith a gliniaduron.

Mae'r ap ar gael i’w lwytho i lawr yn Gymraeg. Dyma'r tro cyntaf i Ofcom gyhoeddi ap Cymraeg ac mae’n gwneud hynny cyn ei bod yn rhaid iddo o dan y Safonau Iaith newydd a ddaw i rym o ddiwedd Ionawr 2017 ymlaen.